Wobrau Womenspire

15 April 2018

Mae Chwarae Teg yn galw ar bobl i bleidleisio dros eu Merch Wych o Gymru sydd wedi eu hysbrydoli fwyaf, cyn cynnal ei Wobrau Womenspire blynyddol yn yr haf.

Mae’r alwad am bleidleisiau yn rhan o gategori Dewis y Bobl yn y Gwobrau a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn y seremoni wobrwyo ym mis Mehefin.

Mae’r menywod sydd ar y rhestr fer yn dod o ymgyrch Merched Gwych o Gymru yr elusen, yn perthyn i’r gorffennol a’r presennol ac yn cynnwys gwyddonwyr, athletwyr, actorion, pobl fusnes a dyneiddwyr.

Mae lansio gwobr Dewis y Bobl yn dilyn ymgyrch Merched Gwych o Gymru a gynhaliwyd yn 2017 i arddangos menywod o Gymru sy’n rôl-fodelau gyda’r nod o ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o fenywod yng Nghymru.

Gall pobl bleidleisio dros eu hoff Ferch Wych o Gymru yn https://www.cteg.org.uk/womenspire-18/peoples-choice-award/

Mae rhai o’r Merched Gwych o Gymru sydd wedi’u henwebu am wobr Dewis y Bobl yn cynnwys:

  • Betty Campbell – prifathrawes ddu gyntaf Cymru
  • Dr Kate Brain – seicolegydd iechyd arloesol
  • Elliw Gwawr – newyddiadurwr gwleidyddol BBC Cymru
  • Beci Newton – ymladdwr tân
  • Robyn Lock – capten rygbi
  • Y Fonesig Rhondda - gwladweinydd a swffragét

Meddai Louise Davies o Chwarae Teg: “Yn rhy aml o lawer mae menywod a merched ym mhob cwr o’r byd yn cael clywed am lwyddiannau rôl-fodelau gwrywaidd yn unig, ond gyda chymaint o ferched gwych yma yng Nghymru roeddem am weithio i newid hynny gyda’n hymgyrch Merched Gwych o Gymru.

“Mae categori Dewis y Bobl yn rhoi cyfle i bawb bleidleisio am eu Mercg Wych o Gymru sy’n eu hysbrydoli fwyaf ac yr hoffent ei gweld yn ennill gwobr yng Ngwobrau Womenspire eleni. Gobeithio y bydd yn annog menywod i feddwl o ddifrif pwy sy’n eu hysbrydoli mewn bywyd, a beth allan nhw gyflawni eu hunain.”

Dyma drydedd flwyddyn ‘Womenspire’ a bydd y seremoni’n cael ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 5 Mehefin.

Bydd menywod o bob maes yn cael eu hanrhydeddu mewn nifer o gategorïau yn cynnwys cymuned, chwaraeon, addysg a busnes. Bydd cyflogwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector cael eu cydnabod am eu hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol yn y gweithle hefyd.