Dyfarnu cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i Dr Ashra Khanom
Ymchwilydd Gwasanaethau Iechyd yw Dr Ashra Khanom, sy’n gweithio i Ganolfan PRIME Cymru (Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol ac Argyfwng Cymru) ym maes ymchwil gofal cyn mynd i’r ysbyty ac mewn argyfwng.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ei bod hi wedi llwyddo’n ddiweddar i gael Gwobr Cymrodoriaeth Iechyd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fydd yn ei galluogi i wneud gwaith ymchwil pwysig ym maes gofal cyn mynd i’r ysbyty. Mae Dr Khanom, sy’n rhan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn edrych ymlaen at gychwyn y gymrodoriaeth, a fydd yn parhau am dair blynedd, ym mis Hydref 2018.
Mae risg marw a digwyddiadau niweidiol eraill yn uchel ymhlith pobl sy’n gwneud galwadau 999 mynych i’r gwasanaeth ambiwlans.
Mae’r grŵp yma o gleifion yn cyflwyno her weithredol ac nid yw darpariaeth bresennol y gwasanaeth yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion.
Y llynedd, ymatebodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru (WAST) i 5,532 o alwadau gan ryw 200 o bobl rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2017, oedd yn costio £70,000 y mis.
Mae modelau newydd o ofal ar draws sectorau yn dod i’r amlwg, ond roedd y sylfaen o dystiolaeth yn ymwneud â demograffeg galwyr; y cyfuniad o achosion; patrymau defnydd y gwasanaeth 999; profiad cleifion a’r darparwr gwasanaeth; mae diogelwch ac effeithiolrwydd y gofal am y grŵp bregus yma o gleifion, sydd ar y cyrion, yn ddiffygiol. Mae arloesedd presennol o ran gofal a gwasanaeth yn aml yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd (i leihau galwadau) yn hytrach na rhoi sylw i anghenion cleifion.
Bydd yr ymchwil arfaethedig yn helpu GIG Cymru i ddeall graddfa a natur problem galwadau mynych, pam mae’n digwydd, patrymau defnydd, canlyniadau a phrofiad galwyr a darparwyr gwasanaeth.
Nod Dr Khanom fydd cynhyrchu canllawiau ar y cyd â rhanddeiliaid (cleifion a’r gwasanaeth ambiwlans) ar sail tystiolaeth a gyhoeddwyd yn flaenorol, gwybodaeth epidemiolegol newydd, a chan gynnwys barn a phrofiad cleifion a darparwyr gwasanaeth.
Mae posibilrwydd y gallai’r canllawiau helpu i leihau galwadau mynych (mantais i WAST), gwella profiad a chanlyniadau’r cleifion (mantais i gleifion), nodi cyfleoedd ar gyfer gwelliannau ehangach i’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol (mantais i’r system).
Dyma ddywedodd Ashra Khanom:
“Rwy’n falch iawn mod i wedi cael gwobr Cymrodoriaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Rwy’n awyddus i ddefnyddio cyd-gynhyrchu yng nghyd-destun yr astudiaeth arfaethedig hon, a gweithio gyda phobl sy’n galw 999 yn fynych i ddatblygu canllawiau gofal sy’n diwallu eu hanghenion nhw a rhai darparwyr gwasanaeth.
“Bu gen i ddiddordeb personol a phroffesiynol brwd erioed mewn gwella mynediad grwpiau bregus a rhai sydd ar y cyrion i iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y wobr hon yn golygu bod gen i rwydd hynt i ddilyn fy niddordeb, yn ogystal ag adeiladu ar fy sgiliau arweinyddiaeth a chyfuno’r wybodaeth honno â dulliau newydd ym maes data iechyd cysylltiedig, gan greu adnodd ymchwil hanfodol a fydd yn cael lle amlycach fyth yn y dyfodol.”