Lleddfu’r pwysau sydd ar adrannau achosion brys

29 Medi 2017

Parademics, doctor and nurse in A&E

Mae dau dîm ymchwil meddygol, o dan arweiniad yr Athro Adrian Edwards, Canolfan PRIME,  Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Jonathan Benger, Prifysgol Gorllewin Lloegr (UWE Bryste), wedi cytuno i gydweithio ar brosiectau gofal brys ategol.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd (NIHR) wedi ariannu’r naill astudiaeth a’r llall, i roi adroddiad ynghylch sut y gall defnyddio meddygon teulu mewn adrannau achosion brys wella canlyniadau i gleifion. 

Mae’r Llywodraeth yn ffafrio’r dull hwn yn gyffredinol.  Fodd bynnag, defnyddir amrywiaeth o fodelau ledled Cymru a Lloegr, gydag amrywiaeth eang o amgylchiadau.  Nod yr ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth fydd darparu modelau gofal effeithlon, sy’n rhoi’r cleifion yn gyntaf.

Modelau gofal effeithlon

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael yr orchwyl o werthuso pa mor effeithlon y mae meddygon teulu yn gweithio o fewn adrannau gofal brys, neu ochr yn ochr â nhw, ar hyn o bryd. Bydd UWE Bryste yn nodi, astudio a gwneud cynigion ynghylch modelau gofal effeithlon.

Yn ôl yr Athro Adrian Edwards: “Rydym i gyd yn deall y pwysau cynyddol ar adrannau achosion brys... Mae angen inni wybod beth sy'n gweithio orau i gleifion, ym mha sefyllfaoedd, beth sy'n ddiogel a beth sy’n cynrychioli gwerth da am arian ar gyfer y GIG yn ei gyfanrwydd.”

Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar y ddau brosiect, a disgwylir adroddiadau yn gynnar yn 2020. Bydd y timau yn defnyddio arbenigwyr ledled Cymru a Lloegr, gan gynnwys meddygon teulu; meddygon brys; staff nyrsio; llunwyr polisïau, ystadegwyr a chleifion.

Bydd y prosiectau’n defnyddio arolygon, cyfweliadau ac ymweliadau i gasglu data gan sampl gynrychioliadol o safleoedd adran achosion brys.  Eu nod cyffredin yw gwella ansawdd, effeithlonrwydd, diogelwch a phrofiad cleifion sydd angen gofal brys.

Yn ôl yr Athro Jonathan Benger: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr yng Nghymru ac ar draws Lloegr i ddeall rôl meddygon teulu yn yr adran achosion brys yn well, a'r ffordd orau o ddarparu'r gwasanaethau hyn yn y dyfodol.”

Mae Caerdydd a Bryste yn hyderus y bydd cydweithredu o fudd i’r naill brifysgol a’r llall, ac y gallai gynnig modelau darparu gwasanaeth gwell.