Ecsema a gwrthfiotigau
14 Mawth 2017
Mae ecsema yn gyflwr cyffredin, yn enwedig ymysg plant ifanc, ac mae’n effeithio ar tua 1 o bob 5 plentyn yn y DU. Weithiau, mae ecsema yn gwaethygu a gall math penodol o facteria ar y croen ei waethygu fel hyn. Defnyddir gwrthfiotigau yn aml i drin ecsema pan mae’n gwaethygu, ond prin iawn yw’r dystiolaeth i ddangos a yw gwrthfiotigau o gymorth neu beidio.
Diben astudiaeth CREAM oedd cael gwybod a yw’r gwrthfiotigau a gymerir drwy’r geg neu ar y croen (elïau) yn helpu i leddfu difrifoldeb yr ecsema ymysg plant oedd ag ecsema heintiedig. Cafodd pob plentyn driniaeth arferol hefyd ar gyfer ecsema a oedd yn cynnwys elïau steroid ac esmwythaol gan eu meddyg.
Yng nghyfnodolyn Annals of Family Medicine, cafodd canlyniadau eu cyhoeddi heddiw o ddadansoddiad a edrychodd ar ddata 113 o blant ag ecsema oedd heb ei heintio’n ddifrifol. Yn ôl y canlyniadau, nid oedd unrhyw wahaniaeth o bwys rhwng y grwpiau o ran sut oedd symptomau’r ecsema yn gwella ar ôl pythefnos, pedair wythnos neu dri mis.
Gwelodd yr ymchwilwyr fod triniaeth corticosteroidau ac eliïau cryfder ysgafn i gymedrol ar y croen yn cael gwared ar y symptomau’n gyflym, ac ni welwyd unrhyw fudd clinigol o bwys o ganlyniad i naill ai ychwanegu gwrthfiotigau drwy’r geg neu ar y croen.
Yn ôl arweinydd yr astudiaeth, Dr Nick Francis, sy’n feddyg teulu ac yn Ddarllenydd Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae gwrthfiotigau ar y croen, sy’n aml yn rhan o gynhyrchion corticosteroidau ar y croen, yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro pan mae achosion o ecsema yn gwaethygu...”
“Er mwyn trin achosion ysgafnach o ecsema heintiedig, dylem roi mwy o bwyslais ar gynnig corticosteroidau neu elïau ar y croen, neu eu gwneud yn gryfach.”
Arweiniwyd astudiaeth CREAM (ChildRen with Eczema, Antibiotic Management) gan Dr Nick Francis, Isadran Meddygaeth Boblogaeth, Prifysgol Caerdydd, a’r Athro Frank Sullivan, Prifysgol Toronto. Cafodd ei chydlynu gan Ganolfan y Treialon Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd gyda chymorth cydweithwyr ym Mhrifysgol Bryste, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Dundee, Prifysgol Abertawe, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ariannwyd yr astudiaeth gan Raglen Asesu Technoleg Ymchwil y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol.
Cyhoeddir yr astudiaeth yn Annals Family Medicine.