Gwella o ran cynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd
Nod Canolfan PRIME Cymru yw gwneud yn siŵr bod ymchwil a gefnogir ganddi yn berthnasol i gleifion a'r cyhoedd, ac yn adlewyrchu eu profiadau, blaenoriaethau a safbwyntiau. Rydym felly yn cynnwys aelodau lleyg ym mhob agwedd o'n gwaith, gan gynnwys pennu blaenoriaethau, llunio syniadau a chwestiynau, gwneud ceisiadau am grantiau, ein dull o gynnal astudiaethau, dadansoddi, dosbarthu a chynllunio effaith.
Cynnwys aelodau lleyg wrth ddatblygu ymchwil
Fel arfer, caiff pob cais ymchwil ei gefnogi gan grŵp datblygu ymchwil sy'n cynnwys dau aelod lleyg. O fewn amserlenni'r cais, rydym yn gwneud yn siŵr bod eu barn yn cael ei chasglu a'i hymgorffori i'r ceisiadau a gyflwynir. Fel arfer, mae'r aelodau lleyg yn gyd-ymgeiswyr ar y ceisiadau. Mae'r testunau wedi cynnwys: cefnogaeth penderfynu a gofal canser mewn cartrefi gofal; safbwyntiau ynglŷn â chanser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn; gwella gofal cyn mynd i'r ysbyty i gleifion gyda chyflyrau brys; rheoli heintiau; gwella gofal sylfaenol a gofal brys.
Er enghraifft, roedd dau aelod lleyg yn bresennol ym mhob cyfarfod i baratoi ar gyfer cais ariannu "Meddygon Teulu mewn Adrannau Brys" i NIHR (HS&DR, Ebrill 2016) ac roeddent wedi eu henwi'n gyd-ymgeiswyr. Ysgrifennodd yr aelodau lleyg y crynodeb lleyg, ynghyd â rhoi cyngor ynglŷn â chynnwys y cyhoedd yn yr astudiaeth arfaethedig, a rhoi sylwadau ar y dulliau ymchwil. Mae'r elfen o gynnwys y cyhoedd yn y cyfarfodydd astudio drwy gydol y prosiect wedi'i chostio'n lawn. Mae PRIME yn cefnogi nodi aelodau lleyg ar gyfer datblygu grwpiau datblygu ymchwil ac astudiaethau a ariennir. Mae'r holl drefniadau ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn dilyn canllawiau arferion gorau er mwyn sicrhau hygyrchedd ac osgoi symboleiddiaeth.
Beth ydy ymchwil?
Watch Health and Care Research Wales' video on how research is keeping you extraordinary.
Mae ymchwil yn ein helpu ni aros yn rhyfeddol.
I gael gwybod am sut rydych chi’n gallu cael eich cynnwys mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, beth am siarad â’ch meddyg teulu, eich nyrs neu’ch darparwr gofal heddiw, neu ymweld â https://www.ymchwiliechydagofal.llyw.cymru/rhyfeddol/